body;.cta-row;h1;h2;h3;h4;h5;h6;.h1;.h2;.h3;.h4;.h5;.h6;.property-page-card-title;.text-center;.text-white;a;.property-page-header-pricebox;.conrwtxt3212

Katy Cawkwell

Artist - Katy Cawkwell

Ymddangosodd Katy Cawkwell yn Beyond the Border 1997 fel “llais newydd” ac mae wedi bod yn chwedleua fyth ers hynny.

Rhoddwyd hi ar y rhestr fer ar gyfer Gwobr y Sefydliad Celfyddydol ac mae wedi ymddangos ar Radio 3 a Radio 4 y BBC. Mae’n enwog am ddatblethu storïau traddodiadol cymhleth yn storïau difyr, disglair sy’n aros yn y cof am amser maith ar ôl eu clywed. Mae ei gwaith blaenorol i oedolion yn cynnwys Tristan & Iseult, The Falcon Bride, The Kingdom of the Heart a Rhiannon. Hi sy’n rhedeg Artemis Storytelling hefyd, gan ddwyn y chwedleuwyr gorau o’r Deyrnas Unedig i Gaerwysg a helpu chwedleuwyr lleol i ddod o hyd i’w llais.

“compelling and gripping…” Everything Theatre

“Fantastic storytelling!” The Story Museum

“It was great, it was superb, it was magical, it was enthralling” Ilkley LitFest

Yng Ngŵyl Beyond the Border 2023 byddant yn perfformio:

Phoenix

Tapestri hardd o chwedlau’r Dwyrain Canol a rhyfeddod Slafig yn dilyn taith hudolus yr Aderyn â Phlu Tanllyd.

Addas i rai 6 oed a hŷn (digon i bob oed ei fwynhau!)

Artemis: The Wild Within

Katy Cawkwell yn diddanu gyda chwedlau cyffrous am Artemis, Duwies yr Helfa yn chwedloniaeth gwlad Groeg. Cyfarfyddiad ecstatig ben bore gyda’r Wawr, mam sy’n mynnu cael ei chofio a menyw sy’n ffoi oddi wrth gaethiwed y tŷ i ddial ar ei gŵr, sy’n ei thwyllo. Disgwyliwch ryw trawsnewidiol, dawnsio noeth yng ngolau’r lleuad a chyfyng-gyngor na all neb ond y gynulleidfa ei ddatrys...
Canllaw oedran: 16+

"Rhyfeddol. Roeddwn wrth fy modd gyda’r archwilio ar chwant a rhyw a gwylltineb." Adborth y Gynulleidfa

The Wounded King

Ffyliaid yn yr anialwch. Craciau yn y deyrnas. Rhyfelwyr yn cysgu dan y bryn. Sut i wella’r creithiau? Sut i ddweud y gwir? Ydi hyn yn hud a lledrith neu ddim ond gwybod ble i edrych?

Darnau o chwedlau Arthur sy’n adlewyrchu’r cyfnod yr ydym yn byw ynddo ar hyn o bryd. Wedi eu plethu gyda’i gilydd gyda chân a gobaith a dyngarwch.

Mae Lisa Schneidau, Katy Cawkwell a Ronnie Conboy yn chwedleuwyr sy’n byw yn Nyfnaint, gyda gwreiddiau sy’n ymestyn ar draws ynysoedd Prydain. Maen nhw wedi adrodd chwedlau mewn tafarndai a chlybiau, mewn gwyliau rhyngwladol ac wrth danau gwyllt, mewn siambrau claddu ac ar greigiau Dartmoor. Dyma’r tro cyntaf iddynt gydweithio.

Addas i 12 mlwydd oed a hŷn

"Noson oedd yn falm yng nghanol holl alar, dinistr, dichell A dewrder ein cyfnod."
Adborth y Gynulleidfa

Cefnogir gan

^
Cymraeg