body;.cta-row;h1;h2;h3;h4;h5;h6;.h1;.h2;.h3;.h4;.h5;.h6;.property-page-card-title;.text-center;.text-white;a;.property-page-header-pricebox;.conrwtxt3212

Beyond the Border yn cydweithio gyda Chanolfan Celfyddydau Taliesin i gynnig cefnogaeth Swyddfa Docynnau ar gyfer Gŵyl 2021

Mae Beyond the Border – Gŵyl Chwedleua Ryngwladol Cymru yn falch iawn i fod yn cydweithio gyda Chanolfan Celfyddydau Taliesin, Abertawe fydd yn cefnogi Swyddfa Docynnau’r ŵyl, a gafodd ei haildrefnu ar 2-4 Gorffennaf 2021 yn Ymddiriedolaeth Genedlaethol Dinefwr.

Am dros 25 mlynedd teithiodd cynulleidfaoedd o bob rhan o’r Deyrnas Unedig ac yn rhyngwladol i fynychu un o brif wyliau chwedleua Ewrop. Cafodd y digwyddiad ei ohirio yn 2020 oherwydd COVID-19 a bu’r trefnwyr yn defnyddio’r amser i baratoi i sicrhau safle diogel i’r ŵyl ar gyfer cynulleidfaoedd, artistiaid a staff yn ei chartref newydd ar safle ymddiriedolaeth Genedlaethol Dinefwr, Sir Gaerfyrddin yn 2021

Mae’r bartneriaeth rhwng Beyond the Border a Chanolfan Celfyddydau Taliesin yn golygu y caiff arian o ffioedd gweinyddu gwerthu tocynnau ei fuddsoddi’n ôl i economi celfyddydau Cymru.

Dywedodd Sandra Bendelow, Rheolwr yr Ŵyl:"Rydym wrth ein bodd y byddwn yn gweithio gyda Chanolfan Celfyddydau Taliesin. Mae’n safle uchel ei barch gyda hanes hir o ddarparu gwasanaeth rhagorol i gwsmeriaid sy’n hollbwysig i Beyond the Border a’n cynulleidfaoedd. Ar yr amser hwn, roeddem hefyd yn teimlo ei bod yn bwysig i Beyond the Border fuddsoddi a chefnogi safleoedd lleol yng Nghymru yn hytrach na defnyddio darparwyr tocynnau y tu allan i Brydain.”

Mae Taliesin yn falch iawn i gydweithio a chefnogi swyddfa docynnau Beyond the Border – Gŵyl Chwedleua Ryngwladol Cymru, a fu’n rhan o ddiwylliant Cymru ac yn wir Ewrop am amser maith. Nid yn lleiaf yn ystod y cyfnod hwn, rydym yn ddiolchgar i gydweithio i sicrhau fod y traddodiad cyfoethog hwn yn parhau. Rwyf wedi mwynhau’r ŵyl fy hunan gyda chyfeillion a pherthnasau ac rwy’n sicr y bydd yn rhoi yr hwyl a boddhad blynyddoedd blaenorol wrth i ni edrych ymlaen ati eto ym mis Gorffennaf 2021.".”
Nia Mills, Marchnata a Rhaglenni, Canolfan Celfyddydau Taliesin, Prifysgol Abertawe.

Aiff tocynnau ar gyfer Gŵyl Beyond the Border ar werth eto o 16 Tachwedd o wefan yr ŵyl a thrwy Canolfan Celfyddydau Taliesin. Am gyfnod cyfyngedig yn unig, caiff prisiau tocynnau eu cadw ar y lefel bresennol a chânt wedyn eu cynyddu o 1 Rhagfyr 2020.

Oherwydd y sefyllfa bresennol bydd Beyond the Border yn cyfyngu nifer y tocynnau penwythnos (dim gwersylla) a thocynnau dydd. Bydd Beyond the Border yn cyhoeddi nifer gyfyngedig o docynnau dydd o 1 Ebrill 2021.

“Rydym wedi sicrhau pan fyddwn yn dod â’r ŵyl fyw i’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol Dinefwr yn 2021 ei bod yn ddiogel a chysurus i’n holl gynulleidfaoedd, artistiaid a phawb sy’n gweithio ar yr ŵyl. Bydd angen i ni ddod â chyfleusterau ychwanegol ac elfennau diogelwch sydd wedi golygu y bu’n rhaid i brisiau tocynnau godi. Os ydych eisiau arbed arian ar y tocynnau Penwythnos a Phenwythnos a Gwersylla pris llawn, prynwch nawr ar y pris is cyn 30 Tachwedd os gwelwch yn dda.”

Archebu Tocynnau

Cefnogir gan

^
Cymraeg