body;.cta-row;h1;h2;h3;h4;h5;h6;.h1;.h2;.h3;.h4;.h5;.h6;.property-page-card-title;.text-center;.text-white;a;.property-page-header-pricebox;.conrwtxt3212

Phil Okwedy - Straeon dros y Ffôn vlog

Rydym ni wedi bod yn gynhyrfus iawn i weld gymaint o brosiectau chwedleua sy’n symud arlein, a’r wledd o waith perfformio a phrosiectau sydd yn digwydd ar hyn o bryd mewn gofodion digidol. Ond beth am y bobl sydd ddim gyda cysylltiad i’r wê? Sut ydyn ni’n parhau i weithio gyda’r grwpiau yma yn ystod y cyfyngiadau symud? Mae nifer o’r bobl yma yn unig a mewn perygl.

Gan gydweithio gyda PeopleSpeakUp a Phil Okwedy, rydym yn cefnogi'r cwmni yma i dreialu ffyrdd newydd o gysylltu gyda phobl hŷn drwy rannu a chyfnewid straeon dros y ffôn.

Fe wnaethom ofyn i Phil rannu gyda ni sut mae’r prosiect yn mynd.

Sut sydd orau gennych chi amgyffred stori? Ai gwrandäwr ydych chi’n bennaf oll? Neu rywun sydd efallai yn cau eu llygaid er mwyn sawru’r geiriau yn well neu weld y stori yn eich meddwl? Neu ai’r presenoldeb a’r cysylltiad corfforol sydd bwysicaf i chi?

Cyn y cyfnod clo byddwn wedi ystyried fod cwestiynau o’r fath yn ymddangos yn annìlys, os nad yn ffug, i fi. Wedi’r cyfan, roedden ni gyd yn yr un ystafell bryd hynny, yn medru cael mynediad i stori yn defnyddio ein holl synhwyrau, fel a phryd y dymunem.

Ond yn ystod ychydig wythnosau Straeon dros y Ffôn – prosiect sy’n defnyddio cyfuniad o alwadau ffôn unigol technoleg hen ffasiwn gyda rhai cyfranogwyr a sesiynau grŵp Zoom bach gydag eraill – dyma rai o’r cwestiynau a ddaeth i fy meddwl.

Gan feddwl yn ôl i fy mhlentyndod fy hun a phrofiad clywedol cyfoethog Listen with Mother ar y radio - Are you sitting comfortably? Then we’ll begin… – roeddwn yn bryderus y byddai ein naid i groesawu galwadau fideo, mewn gwirionedd, yn gam ar yn ôl pan ddaw i chwedleua.

Dechreuais fy argyhoeddi fy hun ei bod yn well efelychu'r profiad radio hwnnw o ddim ond cael y llais i ganolbwyntio arno yn ystod galwad ffôn yn hytrach na’r hyn a welwn i fel yr ymyriadau a ddaw yn sgil Zoom: Ble i edrych pan fyddwch eisiau edrych i lygad rhywun? Beth yw’r darlun ar eich wal? Pa lyfrau sydd ar eich silff?

Fodd bynnag, ymddengys hyd yma fod fy nghwestiynau a phryderon wedi bod yn annilys, hyd yn oed os nad ydynt yn ffals yn union, gan nad yw’r cyfranogwyr wedi eu rhannu.

Ond drwy bynnag gyfrwng y maent wedi derbyn y straeon, hyd yma maent i gyd wedi arwain at fwy o sgwrs a chysylltiad ac mae pawb wedi dweud iddynt eu mwynhau, eu gwerthfawrogi a’u bod yn awchus am fwy.

Fel y straeon eu hunain, mae’r gwrandawyr wedi profi’n hyblyg iawn. Dywedodd un o’r rhai sy’n derbyn galwadau ffôn ei bod yn gwerthfawrogi’r gofod maent yn eu cynnig iddi ddychmygu’r stori heb ddim i dynnu ei sylw a bod hynny’n ei helpu i feddwl am straeon tebyg. Ar y llaw arall, mae rhai yn y grwpiau Zoom yn dweud eu bod yn gwirioneddol werthfawrogi’r ymdeimlad o gysylltiad a deimlant o fod yn yr un ystafell rithiol, a bod y straeon yn gyfoethocach oherwydd y gallant brofi eu natur gorfforol.

Felly sut bynnag sydd orau gennym i amgyffred stori, byddai’n ymddangos ein bod yn addasu i amgylchiadau ac yn gwerthfawrogi’r hyn sydd gan y cyfrwng neilltuol i’w gynnig.

Heblaw, wrth gwrs, fel y straeon eu hunain, nid yw mor syml â hynny oherwydd yn un o’r grwpiau Zoom, fe wnaeth un o’r cyfranogwyr fwynhau’r holl stori heb edrych ar y sgrin unwaith ond wedi ymestyn allan, gyda’i llygaid ar gau, yn hollol ddedwydd.

Phil Okwedy – June 2020

Phil Okwedy website

People Speak Up

 

 

Cefnogir gan

^
Cymraeg