Mae Ayisha De Lanerolle wedi bod yn cyd-greu a chyflawni rhaglenni celfyddydol a diwylliannol ar draws y Deyrnas Unedig am yr 20 mlynedd diwethaf. Fel menyw o dreftadaeth gymysg mae’n gwirioni ar yr hyn sy’n rhoi ymdeimlad o berthyn a chartref i ni, felly yn 2005 sefydlodd The Conversation Agency i ganolbwyntio ar sgwrsio fel offeryn i lunio cysylltiadau a chymuned. Gan ddefnyddio amrywiaeth o brosesau cyfranogol, cydweithredol a democrataidd i danio chwilfrydedd am ein gilydd a chroesawu’r gwahaniaethau rhyngom. Dros y blynyddoedd mae wedi gweithio gydag amrywiaeth o wahanol sefydliadau celfyddydol ac addysgol a hefyd wedi dal preswylfeydd tymor hir yn y Turner Contemporary Margate, Gwobr Turner 2019, a Mansions of the Future, Lincoln.
Yn ddiweddar, edefyn newydd yn ei gwaith yw rhoi’r corff yn ôl yn y sgwrs. Mae’n archwilio sut i roi’r adnoddau i bobl mewn adegau ansicr ac o wrthdaro, yn arbennig o gwmpas cwestiynau am sut i brosesu trawma a beth mae’n ei olygu i ddatgoloneiddio sefydliadau.
Mae hwn yn amser cyffrous i fod yn datgelu a chysylltu storïau newydd mewn Cymru sydd yn ymroddedig i weledigaeth eang o’n dyfodol. Rwy’n edrych ymlaen at helpu’r tîm gwych o weithwyr creadigol i wireddu eu syniadau a chefnogi’r sefydliadau sy’n cydweithio ar eu taith wrth-hiliaeth." Ayisha De Lanerolle