body;.cta-row;h1;h2;h3;h4;h5;h6;.h1;.h2;.h3;.h4;.h5;.h6;.property-page-card-title;.text-center;.text-white;a;.property-page-header-pricebox;.conrwtxt3212

Sandra Bendelow

Rheolwr yr Ŵyl

Sandra Bendelow yw Rheolwr yr Ŵyl ar gyfer Gŵyl Chwedleua Ryngwladol Beyond the Border. Roedd yn rhan o’r tîm a gynhyrchodd ŵyl ar-lein Ailddychmygu Beyond the Border ym mis Gorffennaf 2020 ac mae wrthi’n arwain nifer o brosiectau ar gyfer Beyond the Border yn ymchwilio defnydd llwyfannau technoleg a dulliau chwedleua. Mae hefyd yn awdur sgriptiau ac yn addysgu sgriptio ar gyfer adran Dysgu Gydol Oes Prifysgol Aberystwyth.

Yn syml iawn, ei swydd yw gwneud i’r ŵyl ddigwydd yn ein cartref newydd hyfryd yn Ymddiriedolaeth Genedlaethol Dinefwr. Ei rôl hi yw dod ynghyd â’r llu o gwahanol agweddau a aiff i ochr weithredol yr ŵyl – dod â’r nifer fawr o gwmnïau, perfformwyr llawrydd a sefydliadau at ei gilydd i wneud yr hyn a wnânt yn wirioneddol dda.

Hefyd yn rhan o wneud i’r ŵyl ddigwydd mae canfod y cyllid a chreu incwm a rheoli’r gyllideb.

Yn y blynyddoedd pan na chynhelir yr ŵyl mae ei gwaith yn ymwneud â rheoli prosiectau sy’n gweithio o amgylch yr ŵyl, cefnogi chwedleuwyr a chwedleua yng Nghymru a gweithio gyda chymunedau yng Nghymru

Back

Cefnogir gan

^
Cymraeg