body;.cta-row;h1;h2;h3;h4;h5;h6;.h1;.h2;.h3;.h4;.h5;.h6;.property-page-card-title;.text-center;.text-white;a;.property-page-header-pricebox;.conrwtxt3212

Ailddychmygu: Beyond the Border Arlein

Mae Beyond the Border, Gŵyl Chwedleua Ryngwladol Cymru, wedi cyhoeddi digwyddiad undydd ar-lein arbennig i nodi’r achlysur pan fyddai’r ŵyl wedi bod yn mynd rhagddi yn Ninefwr, Sir Gaerfyrddin.

Ailddychmygu: Beyond the Border Arlein yn ŵyl fer 1 diwrnod ddydd Sadwrn 4 Gorffennaf 2020, a gyflwynir ar dudalen Facebook a sianel YouTube Beyond the Border, gyda chyfuniad o ffrydio byw a chwedleua a cherddoriaeth wedi’u recordio ymlaen llaw yn Gymraeg a Saesneg. Mae rhai sesiynau yn rhad ac am ddim a chodir tâl am eraill.

Am dros 25 mlynedd, bu Beyond the Border yn dod â straeon a phobl ynghyd o bob rhan o Gymru, Prydain Fawr a’r byd, mewn digwyddiad tridiau bob yn ail flwyddyn. Bwriedid cynnal digwyddiad 2020 rhwng 3-5 Gorffennaf ym Mharc Dinefwr yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol yng ngorllewin Cymru, cartref newydd yr Ŵyl. Gyda thema 'Reimagining our Futures'. roedd yr ŵyl eisoes wedi cyhoeddi rhaglen lawn i’r ymylon o artistiaid o bob rhan o Gymru a’r byd, gyda’r artistiaid o Gymru yn cynnwys Catrin Finch, Gwilym Bowen Rhys, Owen Shiers, Daniel Morden, Michael Harvey, Cath Little, Citrus Arts, Phil Okwedy a Mickey Price, yn ogystal â chwedleuwyr rhyngwladol amlwg yn cynnwys Jan Blake a Ben Haggarty o Brydain, Mimesis Heidi Dahlsveen o Norwy, Abbi Patrix o Ffrainc, Linda Edsjö o Sweden a gwesteion arbennig o Ganada – Ivan Coyote, Marta Singh, Tamar Ilana a Demetri Petsalaki - yn gwneud eu hymweliad cyntaf i Beyond the Border.

Dywedodd Naomi Wilds, y Cyfarwyddwr Artistig: “Roeddem yn edrych ymlaen cymaint at ŵyl 2020 a chroesawu pawb i’n safle newydd hudolus yn Ymddiriedolaeth Genedlaethol Dinefwr i fwynhau rhaglen wych o straeon, cerddoriaeth a chelfyddydau awyr agored ysbrydoledig, ond er mwyn diogelu iechyd a llesiant pawb oedd yn gysylltiedig, bu’n rhaid i ni gymryd y penderfyniad anodd i’w gohirio tan 2-4 Gorffennaf 2021. Rydym mor ddiolchgar i’n cynulleidfaoedd, ein hartistiaid a’n cyllidwyr am ein cefnogi i wneud hyn, felly dyma ein cyfle i ddiolch yn fawr a dod â phawb ynghyd ar-lein i fwynhau trysorfa o straeon gydag artistiaid o bob rhan o Gymru.”

Ddydd Sadwrn 4 Gorffennaf gwahoddir mynychwyr cyson yr ŵyl a rhai na fu erioed o’r blaen i fwynhau rhaglen o ddanteithion digidol o’u cartrefi. Trawsnewidiwch eich ystafelloedd byw gyda baneri, paratowch eich picnic, ewch i wersylla i’r ardd os yw’r WiFi yn cyrraedd yno, mae’n amser i ymlacio, hamddena a gadael i’ch dychymyg redeg yn wyllt.

Gan ddechrau am 10am bydd Beyond the Border yn cyflwyno chwedleuwyr a cherddorion i gludo cynulleidfaoedd ar hyd a lled Cymru, a hyd yn oed i Ddinefwr. Drwy Facebook a YouTube, gall cynulleidfaoedd edrych ar chwedleua am ddim ar gyfer teuluoedd, yn cynnwys sesiwn gan yr Hand to Mouth Theatre Company; straeon Cymraeg i deuluoedd gan Tamar Eluned Williams a straeon ar gyfer dysgwyr Cymraeg gan Fiona Collins a enillodd deitl Dysgwr Cymraeg y Flwyddyn, Cath Little o Gaerdydd a Guto Davies, y chwedleuwr a’r cerddor. Bydd hefyd straeon byr yn y prynhawn gan y chwedleuwyr Phil Okwedy a Lisa Schneidau, a ffilmiwyd yn agos i’w cartrefi.

Ar gyfer oedolion a phlant hŷn mae Beyond the Border wedi trefnu tri digwyddiad arbennig ar ZOOM ar thema ‘Ailddychmygu’ gyda pherfformiadau gan Ceri Phillips, chwedleuwr o Ddinefwr, Siân Miriam a enillodd Wobr Esyllt Harker, y cerddor Owen Shiers, y chwedleuwraig Mair Thomas Ifanc a ffefrynnau’r ŵyl TUUP ynghyd â phrofiad ceilidh ar-lein arbennig gan The Urban Folk Theory i ddod â’r noswaith i ben. Mae tocynnau yn £10 fesul archeb, ac ar gael drwy wefan Beyond the Border gyda phob cyfraniad yn mynd i dalu i artistiaid.

Wrth siarad am yr ŵyl ar-lein, dywedodd Naomi Wilds:“Mae straeon yn bwysicach nag erioed. Maent yn ein porthi mewn cyfnodau anodd – maent yn canolbwyntio ar yr hyn sy’n wirioneddol bwysig, neu’n rhoi cyfle i ni ddianc fel y gallwn gael seibiant o wirioneddau llym ein byd. Yn bwysig, maent yn ein helpu i gysylltu gyda’n gilydd ac, yn hollbwysig, ein helpu i ddychmygu ffyrdd newydd i ddod. Ers dechrau’r cyfnod clo buom yn rhannu straeon byr ar-lein, yn rhedeg gweminarau cefnogaeth wythnosol a newid sut y buom yn cyflwyno prosiectau i gadw mewn cysylltiad gyda’i gilydd – mae’r digwyddiad ar-lein arbennig yma yn helpu pawb ohonom i edrych ymlaen gyda’n gilydd.”.”

Archebwch

Archebwch (4pm-9pm) Ar-lein

Cefnogir gan

^
Cymraeg